Gweithdy Celf Graffig

Mae gan y tîm yn moonoo dros chwe blynedd o brofiad o gynnal gweithdai gyda sefydliadau ieuenctid a phobl ifanc, gan ddarparu profiadau hwyliog ac addysgol o dechnegau ffilm ac animeiddio. Mae gan bob aelod o’r tîm brofiad helaeth yn nisgyblaeth pob gweithdy ac arweinir pob gweithdy gan athro cymwysedig.

Ydych chi’n hoff o gomics a stribedi cartwn? Ydych chi eisiau darganfod sut i’w creu? Mae’r gweithdy llawn gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i chi greu eich stribed comig neu waith celf digidol eich hunain! Byddwch yn archwilio sut i greu a datblygu eich syniadau eich hunain ac yn darlunio eich delweddau terfynol gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Yna byddwch yn darganfod sut i sganio a pharatoi’r delweddau hynny i’w paentio’n ddigidol. Wrth i chi baentio’ch delweddau terfynol yn ddigidol, byddwch yn magu dealltwriaeth o natur gwaith yn y diwydiannau darlunio a llyfrau comig modern.