If you do not have flash or do not have the ability to install flash.
Gweithdai Pypedau
Mae gan y tîm yn moonoo dros chwe blynedd o brofiad o gynnal gweithdai gyda sefydliadau ieuenctid a phobl ifanc, gan ddarparu profiadau hwyliog ac addysgol o dechnegau ffilm ac animeiddio. Mae gan bob aelod o’r tîm brofiad helaeth yn nisgyblaeth pob gweithdy ac arweinir pob gweithdy gan athro cymwysedig.
Ydych chi wedi bod yn pendroni sut mae rhoi bywyd i Kermit? Yn y gweithdy llawn hwn byddwch yn cael cyfle i ddatblygu’r syniad ar gyfer ffilm, creu pypedau a chreu set a byddwch yn ffilmio eich sioe bypedau eich hunain!
Bydd y disgyblion yn gweithio gyda’i gilydd i greu straeon ac adeiladau’r setiau a’r pypedau ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Gan barhau'r gwaith tîm byddant yn perfformio’r lleisiau ac yn actio’r cymeriadau ar set fyw.


