Mae moonoo productions Ltd yn stiwdio gynhyrchu Animeiddio a Dylunio annibynnol, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Rydym yn cynhyrchu animeiddio traddodiadol 2D, animeiddio digidol 2D, animeiddio CG ac effeithiau ar gyfer darlledu, y We, print a ffonau symudol. Sylfaenwyd y cwmni yn 2005 gan Nick Price ac Andrew Minton ac ym mis Ionawr 2008 gwelwyd tynnu’r cwmni i mewn i grŵp greenfield.
Ers ei gorfforiad yn 2005 mae moonoo wedi cynhyrchu nifer o ddilyniannau animeiddio ac effeithiau ar gyfer hysbysebion a ddarlledwyd ar S4C ac ITV. Mae moonoo wedi sefydlu partneriaethau gwerthfawr gyda stiwdios animeiddio eraill ac wedi ymgymryd â gwaith animeiddio ar y cyfresi plant Dusty and Musty , cyfarwyddwyr animeiddio'r cynyrchiadau hyn oedd a-productions. Enghreifftiau eraill o waith nodedig yw dylunio ac animeiddio teitlau'r gyfres Stamina a ddarlledir ar S4C, a’r adrannau animeiddiedig o deitlau'r sioe Jonathan a ddarlledir ar S4C hefyd. Yn 2006 aeth moonoo ati i gynhyrchu a chyfarwyddo ffilm animeiddiedig addysgiadol deuddeg munud ar gyfer yr elusen o Lundain, The Complete Works.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae moonoo wedi creu cynnwys arbennig ar gyfer ffonau symudol i greenfield mobile, gyda chleientiaid sy’n cynnwys: Llywodraeth Cynulliad Cymru, BBC Cymru, S4C, Rali Cymru Prydain Fawr, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ymhlith eraill.
Amdanom Ni